Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop


Gareth James
Rheolwr Gyfarwyddwr
Gareth ydy Rheolwr-Gyfarwyddwr North Wales Training. Mae’n angerddol am sicrhau fod pob un o’n cleientiaid a’n cwsmeriaid yn cael cynnig y cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fynd ymlaen â’u gyrfaoedd. Gareth sy’n goruchwylio holl raglenni North Wales Training, gan wneud yn siwr eu bod yn cwrdd â gofynion cyflogwyr a bod yr holl ddysgwyr yn derbyn y gefnogaeth sydd arnyn nhw’i hangen i lwyddo.
Bu Gareth yn gweithio yn y sector hyfforddiant am oddeutu 20 mlynedd, gan adeiladu dealltwriaeth ragorol o gyllido a chyflenwi. Mae’n hen law ar ymateb i newidiadau polisi a chyllido ac yn gallu dwyn o’i brofiad fel arolygwr Ofsted. Mae Gareth wedi adeiladu a rheoli cannoedd o raglenni dysgu, gan weithio gyda mudiadau o bob maint, o SME i gwmnïau rhyngwladol mawr ar draws nifer o sectorau.