Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
Deb Mitchell
Audit & Compliance Manager
Bu Deb yn ffyddlon 100% i North Wales Training ers 1987. Gan gychwyn ei bywyd proffesiynol gyda ni ar Gynllun Hyfforddi Ieuenctid yn y swyddfa weinyddol a bellach yn Rheolwr Archwilio a Chydymffurfiaeth, mae hi wedi ymdrechu i gyrraedd y nod.
O ddydd i ddydd, Deb sy’n goruchwylio’r staff gweinyddol ar draws ein holl ganolfannau, tra’n cynllunio, rheoli, monitro a chadw golwg ar berfformiadau’r staff. Mae hi hefyd yn cadw cyswllt ag uwch-reolwyr, rheolwyr eraill, ac aelodau staff i sicrhau fod dulliau cyfathrebu yn agored ac yn weithredol. Mae hi’n unigolyn ffyddlon iawn sydd wedi ymgymryd â sawl cyfrifoldeb arall ac, o’r herwydd, mae’n cael ei chyfri’n aelod werthfawr o’n tîm.