Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

Partneriaethau
Mae ganddon ni rwydwaith o fudiadau partner gwych sydd wedi’u sefydlu i gyflenwi canlyniadau go iawn i’n dysgwyr. Rydyn ni bob amser yn edrych ar sut i weithio gyda’n gilydd i wneud mwy.
DARPARWYR HYFFORDDIANT
Fel aelod o gonsortiwm addysg Grwp Llandrillo Menai , fe fuon ni’n gweithio gydag ystod o ddarparwyr a cholegau hyfforddi dros y 30 mlynedd ddiwethaf. Mae ganddon ni feddwl agored ac agwedd bragmataidd tuag at bartneriaethau a diddordeb bob amser i geisio deall os oes mwy a gwell ffyrdd o helpu ein dysgwyr i lwyddo.
SCHOOLS
Plant ydy dyfodol gogledd Cymru ac mae ganddon ni hanes hir o weithio gydag Ysgolion i ddarparu cefnogaeth gyda chyfarwyddyd gyrfaoedd ar beth i’w wneud wedi addysg prif ffrwd, megis Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau.
Rydyn ni hefyd yn darparu ystod o raglenni i blant sydd mewn peryg o ymddieithrio ac yn cynnig rhaglenni gyda themâu milwrol neu anfilwrol, yn gweithio ar bethau megis sgiliau cyfathrebu a meithrin tîm.
Edrych ar ein Rhaglenni Ysgolion
CANOLFAN WAITH A’R ADRAN GWAITH A PHENSIYNAU
Oherwydd ein cleientiaid a’n cwsmeriaid, rydyn ni’n fynych yn gweithio ar y cyd ag amrywiol adrannau llywodraeth i sicrhau cyflogaeth, hyfforddiant a gwasanaethau hanfodol i’r bobl hynny rydyn ni yma i’w gwasanaethu.