Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
SUT WNAETH KICKSTART HELPU DANIEL I FYND O FOD YN DDIGARTREF I GARTREF, YN GLYD AC MEWN GWAITH
Yn ddigartref a di-waith, mae Daniel Arslan o’r Rhyl, gyda chydgymorth Canolfan Byd Gwaith, North Wales Training a Chynllun Kickstart y Llywodraeth, bellach yn Gynghorydd Manwerthu mewn siop Vodaphone yn Y Rhyl a reolir gan Seren Communications.
Hyfforddwr gwaith Canolfan Byd Gwaith Daniel fu’n allweddol yn ei helpu i dynnu’i hun allan o’i sefyllfa erchyll ac yn ôl at waith. Dywedodd Daneil, “Fy hyfforddwr gwaith a’m helpodd i i dwtio fy hun i fyny, cael hyd i fanciau bwyd i mi a’m rhoi nôl ar ben ffordd”.
Roedd Daniel yn gymwys i’r Cynllun Kickstart, sy’n gosod rhai rhwng 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol mewn lleoliad swydd chwe mis. Atgyfeririwyd Daniel am swydd yn Seren Communications a reolir gan North Wales Training, sy’n rhan o Gateway. Gweithiodd y Ganolfan Byd Gwaith gyda Daniel i’w baratoi ar gyfer y cyfweliad, hyd yn oed yn ei helpu i ganfod llety.
Mae dod yn ‘Kickstarter’ wedi rhoi chwe mis o gymorth wedi’i deilwra i Daniel gan North Wales Training, gan gynnwys mentor pwrpasol sydd wedi trefnu i Daniel dderbyn hyfforddiant ychwanegol ac sy’n cadw cyswllt rheolaidd gyda fo “ i wneud yn siwr mod i’n dal ati ac yn dal i fynd”.
Canlyniad Kickstart a’n cydgefnogaeth? Mae Daniel bellach yn ffynnu.
Sylwadau diwethaf Daniel am Kickstart?
“Dwi wedi dysgu cymaint o sgiliau newydd y medra i eu trosglwyddo ac wedi magu cymaint o hyder a disgyblaeth”.
“Faswn i’n rhoi 10/10 i’r cynllun gan mod i wedi derbyn dim byd ond cefnogaeth... faswn i’n dweud fod cynllun kickstart
wedi newid fy mywyd”.