Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
CREDU YNG NGRYM BREUDDWYDION?

Dewch i gyfarfod â Faith.
Roedd hi’n ymddiddori erioed mewn pethau mecanyddol, megis peiriannau. Ceisio meddwl sut orau i’w gwneud nhw i weithio’n well, neu jest eu trwsio. Er ei bod yn ansicr sut i wneud gyrfa o hyn, cofrestrodd Faith ar gwrs ymwybyddiaeth filwrol yng Ngwersyll Cinmel, ger Y Rhyl yn ystod yr Hydref diwethaf (dan ofal un ohonon ni yn Hyfforddiant Gogledd Cymru, sef Martin Craven, Cadfridog Clwyd a Gwynedd o Gorfflu Cadetiaid y Fyddin).
Yn ystod y cwrs, camodd Donna Bryant, un o gydweithwyr Martin, i mewn. Gofynnodd i Faith beth oedd hi’n dymuno bod ac i ba gyfeiriad oedd hi am i’w gyrfa fynd. “Technegydd”, atebodd Faith. Wedi ychydig o drafodaethau a chysylltu â hwn a’r llall, yn ddiweddarach yr wythnos honno, canodd ffôn Faith. Fase hi’n hoffi bod yn brentis gyda Honda? Yn ychwanegol at hyn, a fase hi’n hoffi astudio am Brentisiaeth mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn yng Ngholeg Llandrillo, Y Rhyl, 3 diwrnod yr wythnos gydag un diwrnod llawn yr wythnos yn Honda?
Dydy Faith ddim wedi sbïo nôl ers hynny.
Meddai hi wrthon ni, “Dwi wedi bod gyda Honda Gogledd Cymru a Choleg Llandrillo, Y Rhyl ers mis Tachwedd ac mae Honda yn talu £300 y mis imi. Dwi mor ddiolchgar am y cyfle ges i ac mae’r diolch i gyd i North Wales Training.”
Credu yng ngrym breuddwydion? Mae Hyfforddiant Gogledd Cymru wrth eu bodd yn helpu i’w gwireddu, Cysylltwch â ni heddiw, a dewch inni weld be fedrwn ni wneud i chi.
Dydy’r rhaglen brentisiaeth y cofrestrodd Faith ar ei chyfer ddim yn un o’n rhai ni, ond y ffaith ein bod wedi galluogi Faith i wneud yr hyn roedd hi isho gwneud, a bod y bobl sy’n gweithio gyda ni ar unrhyw un o’n rhaglenni, yn symud ymlaen gyda’u dewis o yrfa , ydy’r rhan bwysicaf o’r hyn rydyn ni’n ei gyflawni.
Da iawn ti, Faith.