Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
AMSER I SYMUD I’R CYNLLUN KICKSTART?
Mae Cynllun Kickstart yn cynnig i’r rhai rhwng 16-24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol y cyfle ik ymgymryd â lleoliad gwaith chwe mis.
Roedd Sioned Williams, o Wrecsam, a raddiodd yn ddiweddar mewn Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth, fel llawer o’i chyfoedion a raddiodd yn 2020, yn ddi-waith mewn marchnad swyddi a barlyswyd gan y pandemig.
Diolch i Gynllun Kickstart, mae Sioned yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Galwadau Lles Cwsmeriaid i Tai Gogledd Cymru. Cafodd Sioned ei hatgyfeirio i wneud cais am y swydd gan ei Hyfforddwr Gwaith a bu’r cyfweliad yn llwyddiannus.
Mae rôl Sioned yn cynnwys ffonio tenantiaid i ddelio â chwynion neu ddatrys problemau. Er ei bod yn cyfaddef nad dyma’r swydd y dymunai ei chael am oes, mae Sioned yn ddiolchgar am y profiad, am waith sy’n talu, ac am y cyfle i ddysgu sgiliau newydd sy’n cynnwys gwella ei sgiliau cyfathrebu.
Sylwadau Sioned ar y Cynllun Kickstart?
“Roedd fy hyfforddwr gwaith Canolfan Byd Gwaith yn helpu trwy ffonio fi am 1-1 i’m helpu i gael hyd i’r swydd iawn. Ac mae gwasanaeth North Wales Training wedi bod yn grêt – yn llawn gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth. Dwi wedi llunio CV newydd sydd wedi’i deilwra at fy nyfodol”.
“100% yn wych hyd yn hyn.”