Cefnogir Rhaglenni Prentisiaeth, Hyfforddeiaeth a Thwf Swyddi Cymru, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop

CYMHELLIAD ARIANNOL, GRANTIAU A CHEFNOGAETH ARIANNOL
I gefnogi busnesau, mae ystod o gronfeydd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar gael i ddelio â phopeth o hyfforddiant, talu cyflogau i gymhelliant ariannol i hyrwyddo twf. Edrychwch ar ein ystod o gynlluniau sydd â chymorth ariannol y gallwch hawlio.
TWF SWYDDI CYMRU – 50% O GOSTAU CYFLOGAETH
Cymerwch berson ifanc di- waith ac fe wnaiff Llywodraeth Cymru eich helpu i gwrdd â hyd at 50% o’r gost am y 6 mis cyntaf ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eu hoed, neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol, os yn gymwys
CYRSIAU HYFFORDDI RHAD AC AM DDIM I GYFLOGEION
O’u cwblhau fel rhan o Brentisiaeth, gellir cynnig NVQs a diplomas yn rhad ac am ddim i’r dysgwr a’r cyflogwr, gyda’r holl broses gyllido’n cael ei ddelio ganddon ni.
Mwy o fanylion am Gyrsiau Hyfforddi a Gyllidir i staff cyflogedig
Rhestr lawn o gyrsiau sy’n cael eu cyllido trwy Brentisiaethau
SUT YDW I'N DOD O HYD I FWY?
Os hoffet ti fwy o wybodaeth, mae croeso iti ffonio, e-bostio neu lenwi ein ffurflen gyswllt fer.
E-bostia ein Tîm Prentisiaethau cyfeillgar i ganfod mwy.
Ffonia 01492 543431 i gael sgwrs gyda’n Tîm Prentisiaethau a chanfod mwy.